Telerau ac amodau
Mae'r dudalen hon, ac unrhyw dudalennau y mae'r dolenni arni yn mynd iddynt, yn esbonio telerau ac amodau Canfod Tendr. Rhaid i chi gytuno i'r rhain er mwyn defnyddio Canfod Tendr.
Pwy ydym ni
Caiff Canfod Tendr ei reoli gan Swyddfa'r Cabinet ar ran y Goron. Cyfeirir at Swyddfa'r Cabinet fel ‘ni’ o hyn ymlaen.
Defnyddio Canfod Tendr
Rydych yn cytuno mai dim ond at ddibenion cyfreithlon y byddwch yn defnyddio Canfod Tendr. Rhaid i chi hefyd ei ddefnyddio mewn ffordd nad yw'n tresmasu ar hawliau unrhyw un arall, yn atal rhywun arall rhag defnyddio a mwynhau'r wefan hon, nac yn cyfyngu ar y defnydd a'r mwynhad hwnnw.
Caiff Canfod Tendr ei ddiweddaru'n barhaus a gall cynnwys gael ei newid neu ei ddileu unrhyw bryd heb rybudd.
Gwasanaethau a thrafodion
Gallwch ddefnyddio Canfod Tendr fel cyflenwr i chwilio am gyfleoedd contract a chreu/diweddaru gwybodaeth am y cyflenwr ar gyfer eich sefydliad. Ar ôl ei datgan, gellir rhannu gwybodaeth am y cyflenwr ag awdurdodau contractio. Mae awdurdodau contractio yn defnyddio Canfod Tendr i gyhoeddi hysbysiadau.
Mae Canfod Tendr yn defnyddio gwasanaethau eraill megis One Login. Mae gan y gwasanaethau hyn eu telerau ac amodau eu hunain a fydd hefyd yn berthnasol wrth ddefnyddio Canfod Tendr – darllenwch y rhain cyn i chi ddefnyddio'r gwasanaeth.
Gall hysbysiadau fynd â chi i wasanaethau'r awdurdodau contractio eu hunain sydd â'u telerau ac amodau eu hunain a fydd hefyd yn berthnasol – darllenwch y rhain cyn i chi ddefnyddio eu gwasanaethau.
Cynnwys dolenni i wefan Canfod Tendr
Rydym yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gynnwys dolenni i wefan Canfod Tendr.
Rhaid ichi gysylltu â ni i ofyn am ganiatâd os ydych am wneud unrhyw rai o'r pethau canlynol:
- codi tâl ar ddefnyddwyr eich gwefan am glicio ar ddolen i unrhyw dudalen ar wefan Canfod Tendr
Cynnwys dolenni o wefan Canfod Tendr
Mae Canfod Tendr yn cynnwys dolenni i wefannau a gaiff eu rheoli gan adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth, darparwyr gwasanaethau, neu sefydliadau eraill. Nid oes gennym reolaeth dros gynnwys y gwefannau hyn.
Nid ydym yn gyfrifol am y canlynol:
- diogelu unrhyw wybodaeth a rowch i'r gwefannau hyn
- unrhyw golled neu ddifrod a all ddigwydd o ganlyniad i ddefnyddio'r gwefannau hyn, neu unrhyw wefannau eraill y gellir mynd iddynt drwy ddolenni ar y gwefannau hyn
Rydych yn cytuno i'n rhyddhau ni o unrhyw hawliadau neu anghydfodau a all godi o ganlyniad i ddefnyddio'r gwefannau hyn.
Dylech ddarllen yr holl delerau ac amodau, polisïau preifatrwydd a thrwyddedau defnyddiwr sy'n gysylltiedig â'r gwefannau hyn cyn ichi eu defnyddio.
Defnyddio cynnwys Canfod Tendr
Mae'r rhan fwyaf o'r cynnwys ar Canfod Tendr yn ddarostyngedig i ei ddiogelu gan hawlfraint y Goron a bydd yn cael ei gyhoeddi o dan Drwydded Llywodraeth Agored (OGL).
Mae rhywfaint o'r cynnwys wedi'i eithrio rhag yr OGL – edrychwch ar y rhestr o eithriadau.
Mae logos ac arwyddluniau adrannau hefyd wedi'u heithrio rhag yr OGL, heblaw pan fyddant yn rhan annatod o ddogfen neu set ddata.
Os na fydd unrhyw gynnwys wedi'i ddiogelu gan hawlfraint y Goron neu wedi'i gyhoeddi o dan yr OGL, byddwn fel arfer yn cydnabod yr awdur neu ddeiliad yr hawlfraint.
Gallwch atgynhyrchu cynnwys a gyhoeddir ar Canfod Tendr o dan yr OGL ar yr amod eich bod yn dilyn amodau'r drwydded.
Cysylltwch â ni os hoffech atgynhyrchu darn o gynnwys ond nad ydych yn siŵr a yw'n ddarostyngedig i hawlfraint y Goron neu'r OGL.
Rydym yn darparu'r rhan fwyaf o'r cynnwys ar Canfod Tendr drwy ffrydiau er mwyn i wefannau a rhaglenni eraill allu eu defnyddio. Nid ein cynhyrchion ni yw'r gwefannau a'r rhaglenni sy'n defnyddio ein ffrydiau, ac mae'n bosibl y byddant yn defnyddio fersiynau o'n cynnwys sydd wedi cael eu golygu a'u storio i'w defnyddio rywbryd eto (‘cached’).
Nid ydym yn rhoi unrhyw sicrwydd, amodau na gwarantiadau ynglŷn â chywirdeb na chyflawnrwydd unrhyw gynnwys a ddefnyddir gan y cynhyrchion hyn. Nid ydym yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a all ddigwydd wrth ichi ddefnyddio'r cynhyrchion hyn.
Y fersiwn ddiweddaraf o'n cynnwys fydd ar wefan Canfod Tendr bob amser.
Defnydd Derbyniol
Mae'r adran hon yn disgrifio ffyrdd gwaharddedig o ddefnyddio Canfod Tendr. Nid yw'r enghreifftiau a ddisgrifir yma yn hollgynhwysfawr.
Gwasanaeth SWYDDOGOL yw Canfod Tendr a ddarperir er mwyn galluogi defnyddwyr i ymgysylltu â phroses gaffael Llywodraeth EF. Dim ond pobl ag angen busnes a gaiff ddefnyddio'r gwasanaeth.
Dim defnydd na chynnwys anghyfreithlon, niweidiol na thramgwyddus
Ni chewch ddefnyddio gwasanaeth Canfod Tendr, nac annog, hybu, hwyluso na chyfarwyddo eraill i'w ddefnyddio, mewn unrhyw ffordd sy'n anghyfreithlon, yn niweidiol, yn dwyllodrus, yn tresmasu ar hawliau neu'n dramgwyddus, nac i drosglwyddo, storio, arddangos neu ddosbarthu cynnwys sy'n anghyfreithlon, yn niweidiol, yn dwyllodrus, yn torri rheolau neu'n dramgwyddus, na darparu cynnwys o'r fath drwy unrhyw ddull arall. Ymhlith y gweithgareddau a'r cynnwys gwaharddedig mae:
- Gweithgareddau anghyfreithlon, niweidiol neu dwyllodrus. Unrhyw weithgareddau sy'n anghyfreithlon, sy'n ymyrryd â hawliau pobl eraill, neu a all fod yn niweidiol i bobl eraill, i'n gweithrediadau neu i'n henw da, gan gynnwys lledaenu, hyrwyddo neu hwyluso pornograffi plant, cynnig neu ledaenu nwyddau, gwasanaethau, cynlluniau neu ymgyrchoedd hyrwyddo twyllodrus, cynlluniau ‘gwneud arian yn gyflym’, cynlluniau Ponzi a phyramid, neu weithgarwch gwe-rwydo neu we-gorlannu.
- Cynnwys sy'n tresmasu ar hawliau. Cynnwys sy'n tresmasu ar hawliau eiddo deallusol neu hawliau perchenogol pobl eraill neu'n camddefnyddio'r hawliau hynny.
- Cynnwys tramgwyddus. Cynnwys sy'n ddifenwol, yn anllad, yn ddifrïol, yn tarfu ar breifatrwydd, neu'n annymunol fel arall, gan gynnwys deunydd sy'n gyfystyr â phornograffi plant, yn ymwneud â milgydiaeth, neu'n portreadu gweithredoedd rhywiol anghydsyniol.
- Cynnwys niweidiol. Cynnwys neu dechnoleg gyfrifiadurol arall a all niweidio unrhyw system, rhaglen neu ddata, neu ymyrryd â nhw, eu rhyng-gipio'n llechwraidd neu eu difeddiannu, gan gynnwys feirysau, feirysau Ceffyl Pren Troea, mwydod, bomiau amser neu robotiaid canslo.
Dim tarfu ar ddiogelwch
Ni chewch ddefnyddio gwasanaeth Canfod Tendr i darfu ar ddiogelwch na chyfanrwydd unrhyw rwydwaith, cyfrifiadur neu system gyfathrebu, rhaglen feddalwedd, neu ddyfais rhwydwaith neu gyfrifiadura (y mae pob un ohonynt yn “System”). Ymhlith y gweithgareddau gwaharddedig mae:
- Mynediad heb awdurdod Mynd i mewn i unrhyw System neu ei defnyddio heb ganiatâd, gan gynnwys ceisio chwilio, sganio neu brofi bregusrwydd System neu dorri unrhyw fesurau diogelwch neu ddilysu a ddefnyddir gan System.
- Rhyng-gipio. Monitro data neu draffig, heblaw at ddefnydd busnes a gymeradwywyd, ar Canfod Tendr heb ganiatâd.
- Anwirio tarddiad. Ffugio penynnau pecynnau TCP-IP, penynnau e-bost, neu unrhyw ran o neges sy'n disgrifio ei tharddiad neu ei llwybr. Nid yw'r ddarpariaeth hon yn gwahardd defnydd cyfreithlon o enwau eraill ac ailanfon negeseuon yn ddienw.
Dim camddefnyddio rhwydweithiau
Ni chewch wneud cysylltiadau rhwydwaith ag unrhyw ddefnyddwyr, gwesteiwyr na rhwydweithiau oni bai eich bod wedi cael caniatâd i gyfathrebu â nhw. Ymhlith y gweithgareddau gwaharddedig mae:
- Atal Gwasanaeth. Gorlethu targed â cheisiadau cyfathrebu fel bod y targed naill ai'n methu ymateb i draffig dilys neu'n ymateb mor araf fel ei fod yn mynd yn aneffeithiol.
- Ymyrryd yn fwriadol. Ymyrryd â gweithrediad cywir unrhyw System, gan gynnwys unrhyw ymdrech fwriadol i orlwytho System drwy lythyr-fomio, newyddion-fomio, ymosodiadau darlledu neu dechnegau gorlethu.
- Gweithredu gwasanaethau rhwydwaith penodol. Gweithredu gwasanaethau rhwydwaith fel dirprwyon agored, systemau trosglwyddo post agored, neu weinyddion enw parth dychweliadol.
- Osgoi cyfyngiadau system. Defnyddio dulliau â llaw neu ddulliau electronig o osgoi unrhyw gyfyngiadau a roddwyd ar System, megis cyfyngiadau mynediad a storio
Ein dulliau monitro a gorfodi
Cadwn yr hawl i ymchwilio i unrhyw achos o dorri'r polisi hwn neu gamddefnyddio gwasanaeth Canfod Tendr, ond nid oes rhwymedigaeth arnom i wneud hynny. Gallwn:
- ymchwilio i achosion o dorri'r polisi hwn neu gamddefnyddio gwasanaeth Canfod Tendr
- dileu neu addasu unrhyw gynnwys neu adnoddau sy'n torri'r polisi hwn neu unrhyw gytundeb arall sydd gennym â chi ar gyfer defnyddio Canfod Tendr, neu atal mynediad at gynnwys neu adnoddau o'r fath.
Gallwn roi gwybod i swyddogion gorfodi'r gyfraith neu reoleiddwyr priodol, neu drydydd partïon priodol eraill, am unrhyw weithgaredd rydym yn amau ei fod yn torri unrhyw gyfraith neu reoliad. Gall hyn gynnwys datgelu gwybodaeth briodol am gwsmeriaid. Gallwn hefyd gydweithredu ag asiantaethau gorfodi'r gyfraith neu reoleiddwyr priodol, neu drydydd partïon priodol eraill, er mwyn helpu i ymchwilio i ymddygiad anghyfreithlon a'i erlyn drwy roi gwybodaeth am rwydweithiau a systemau sy'n gysylltiedig ag achosion honedig o dorri'r Polisi hwn.
Rhoi gwybod am achosion o dorri'r polisi hwn
Os dewch i wybod am unrhyw achos o dorri'r polisi hwn, byddwch yn rhoi gwybod i ni ar unwaith ac yn ein cynorthwyo, yn ôl y gofyn, i atal neu unioni'r sefyllfa. I roi gwybod am unrhyw achos o dorri'r polisi hwn, cysylltwch â ni.
Cyfrifoldeb defnyddwyr y gwasanaeth
Drwy ddefnyddio'r gwasanaeth hwn byddwch yn cytuno i gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau uniondeb unrhyw ddata a gyrchir, gan gynnwys diogelu rhag maleiswedd a chod maleisus. Eich cyfrifoldeb chi yw ymchwilio i unrhyw broblemau a gyfyd yn sgil gwallau neu rybuddion mewn perthynas â data a ddefnyddir o wasanaeth Canfod Tendr pan fyddwch yn lawrlwytho deunydd a gyhoeddwyd, a datrys y problemau hynny.
Ymwadiad
Er y gwnawn bob ymdrech i gadw Canfod Tendr yn gyfredol, nid ydym yn rhoi unrhyw sicrwydd, amodau na gwarantiadau y bydd y wybodaeth:
- yn gyfredol
- yn ddiogel
- yn gywir
- yn gyflawn
- yn rhydd rhag bygiau neu feirysau
Nid ydym yn cyhoeddi cyngor ar Canfod Tendr. Dylech gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn gwneud unrhyw beth yn seiliedig ar y cynnwys.
Nid ydym yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a all ddigwydd yn sgil defnyddio Canfod Tendr. Mae hyn yn cynnwys:
- unrhyw golledion uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol
- unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan gamweddau sifil (‘camwedd’, gan gynnwys esgeuluster), torri contract neu fel arall
- defnyddio Canfod Tendr ac unrhyw wefannau sydd â dolenni iddynt neu oddi wrthynt
- methu â defnyddio Canfod Tendr ac unrhyw wefannau sydd â dolenni iddynt neu oddi wrthynt
Bydd hyn yn berthnasol os oedd y golled neu'r difrod yn rhagweladwy, os digwyddodd wrth i'r broses arferol fynd rhagddi neu os gwnaethoch ein hysbysu y gallai ddigwydd.
Mae hyn yn cynnwys (ymhlith pethau eraill) colli eich:
- incwm neu refeniw
- cyflog, budd-daliadau neu daliadau eraill
- busnes
- elw neu gontractau
- cyfle
- cynilion disgwyliedig
- data
- ewyllys da neu enw da
- eiddo diriaethol
- eiddo anniriaethol, gan gynnwys colli neu lygru data neu unrhyw system gyfrifiadurol, neu ddifrod i ddata neu system o’r fath
- gwastraffu amser rheolwyr neu swyddfa
Gallwn fod yn atebol am y canlynol o hyd:
- marwolaeth neu anaf personol a achoswyd gan ein hesgeuluster
- camliwio twyllodrus
- unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei ddiystyru na chyfyngu arno o dan gyfraith gymwys
Ceisiadau i ddileu cynnwys
Gallwch ofyn i ni ddileu cynnwys o Canfod Tendr. Byddwn yn dileu cynnwys:
- er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data mewn perthynas â hawliau a rhyddid unigolion
- os yw’n torri deddfau hawlfraint, yn cynnwys data personol sensitif neu ddeunydd y gellir ystyried ei fod yn anllad neu’n ddifenwol
Cysylltwch â ni i ofyn inni ddileu cynnwys. Bydd angen ichi anfon cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys atom ac esbonio pam rydych yn credu y dylai gael ei ddileu. Byddwn yn ateb i roi gwybod ichi a fyddwn yn ei ddileu ai peidio.
Ein penderfyniad ni fydd a ddylai cynnwys gael ei ddileu, a hynny mewn trafodaeth â’r adran neu’r asiantaeth sy’n gyfrifol amdano. Gallwch wneud cais am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Ddeddf Diogelu Data o hyd.
Gwybodaeth amdanoch chi a’ch ymweliadau â gwefan Canfod Tendr
Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd a'n polisi cwcis. Drwy ddefnyddio Canfod Tendr, rydych yn cytuno i ni gasglu’r wybodaeth hon ac yn cadarnhau bod unrhyw ddata a roddir gennych yn gywir.
Diogelu rhag feirysau
Gwnawn bob ymdrech i wirio a phrofi Canfod Tendr am feirysau ar bob cam o'r broses gynhyrchu. Rhaid i chi sicrhau nad yw’r ffordd rydych yn defnyddio Canfod Tendr yn peri risg i chi o feirysau, cod cyfrifiadurol maleisus neu fathau eraill o ymyriadau a all ddifrodi eich system gyfrifiadurol.
Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth i chi ddefnyddio Canfod Tendr.
Feirysau, hacio a throseddau eraill
Wrth ddefnyddio Canfod Tendr, ni ddylech gyflwyno feirysau, feirysau Ceffyl Pren Troea, mwydod, bomiau rhesymeg neu unrhyw ddeunydd arall sy'n faleisus neu'n dechnolegol niweidiol.
Ni ddylech geisio cael mynediad at Canfod Tendr, y gweinydd y mae wedi'i storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy'n gysylltiedig ag ef heb awdurdod.
Ni chewch ymosod ar Canfod Tendr mewn unrhyw ffordd. Mae hyn yn cynnwys ymosodiadau atal gwasanaeth
Byddwn yn rhoi gwybod i'r awdurdodau gorfodi’r gyfraith perthnasol am unrhyw ymosodiadau neu ymdrechion i gael mynediad heb ei awdurdodi at Canfod Tendr ac yn rhannu gwybodaeth amdanoch chi â nhw.
Y gyfraith sy'n rheoli
Caiff y telerau ac amodau hyn eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr.
Bydd unrhyw anghydfod sydd gennych mewn perthynas â’r telerau ac amodau hyn, neu eich defnydd o Canfod Tendr (boed hynny o dan gontract ai peidio), yn ddarostyngedig i awdurdodaeth gyfyngol llysoedd Cymru a Lloegr.
Cyffredinol
Gall fod hysbysiadau cyfreithiol mewn rhannau eraill o Canfod Tendr sy’n ymwneud â’r ffordd y byddwch yn defnyddio’r wefan.
Ni fyddwn yn atebol os byddwn yn methu â chydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol.
Efallai y byddwn yn penderfynu peidio ag arfer neu orfodi unrhyw hawl sydd ar gael i ni yn unol â’r telerau ac amodau hyn. Gallwn bob amser benderfynu arfer neu orfodi’r hawl honno rywbryd eto.
Ni fydd gwneud hyn unwaith yn golygu y byddwn yn ildio’r hawl yn awtomatig ar unrhyw achlysur arall.
Os penderfynir bod unrhyw rai o’r telerau ac amodau hyn yn annilys, yn anorfodadwy neu’n anghyfreithlon am unrhyw reswm, bydd y telerau ac amodau sy’n weddill yn gymwys o hyd.
Newidiadau i’r telerau ac amodau hyn
Dylech fwrw golwg dros y telerau ac amodau hyn yn rheolaidd. Gallwn eu diweddaru unrhyw bryd heb rybudd.
Byddwch yn cytuno i unrhyw newidiadau os byddwch yn parhau i ddefnyddio Canfod Tendr ar ôl i’r telerau ac amodau gael eu diweddaru.
Diweddarwyd ddiwethaf 24 Chwefror 2025
Mae'r holl gynnwys ar gael o dan 